Archwilio'r tab Cyrsiau
Mae'r tab Cyrsiau yn cynnwys rhestr o gyrsiau rydych wedi'ch cofrestru arnynt neu’n eu dysgu. Gall eich sefydliad ailenwi unrhyw rai o’r tabiau.
- Chwilio am Gwrs: Gall myfyrwyr chwilio am gwrs, ac os caniateir hynny, rhagolygu'r cwrs. Teipiwch air allweddol neu linyn testun yn y blwch, dewiswch Iawn. Mae'r canlyniadau'n ymddangos ar dudalen Pori'r Catalog Cyrsiau.
- Rhestr Cyrsiau: O'r rhestr, gallwch gyrchu unrhyw gwrs rydych wedi cofrestru arno neu eich bod yn ei addysgu.
- Catalog Cyrsiau: Gallwch chwilio'r catalog am gyrsiau neu fudiadau. Dewiswch ddolen categori neu ddewiswch Pori'r Catalog Cyrsiau i gychwyn chwilio.
Os oes gan eich sefydliad fynediad at y nodweddion ymrwymiad cymunedol, mae'r catalog mudiadau yn rhestru pob mudiad mewn categorïau, megis yn ôl y math o fudiad neu argaeledd semester.
Mae gwesteion yn gallu pori'r catalog a rhagolygu cyrsiau. Nid oes gan westeion fynediad i'r cwrs cyfan. Mae hyfforddwyr yn rheoli os caniateir i ddefnyddwyr weld y rhagolwg cwrs cyn cofrestru.
Efallai bydd eich sefydliad yn defnyddio catalog gwahanol neu beidio â defnyddio catalog o gwbl.
Pori’r catalog cyrsiau
Gallwch chwilio am gyrsiau neu fudiadau gyda gair allweddol neu yn ôl categori penodol. Mae'r dolenni yn y catalog yn arddangos gwybodaeth am hyfforddwr a disgrifiad cwrs opsiynol.
Dewiswch Gweld y Catalog Cyrsiau ar dudalen y porth. Neu, mewngofrestrwch ac agor y tab Cyrsiau neu’r tab Cymunedol i bori’r rhestri.
- Chwilio trwy’r Catalog: Defnyddiwch y dewislenni i gyfyngu'r chwilio.
- Ewch: Chwiliwch am gwrs.
- Gweld Gwerslyfrau: Dewiswch i agor ffenestr newydd ac edrychwch ar werslyfrau ar gyfer cwrs.
Cuddio cwrs yn eich rhestr
Gallwch ddefnyddio'r un camau i guddio cwrs o'r tab Cyrsiau neu o fodiwl Fy Nghyrsiau ar dab Fy Sefydliad.
- Dewiswch yr eicon Rheoli sy'n ymddangos pan fyddwch yn pwyntio at y modiwl.
- Ar dudalen Personoli: Fy Nghyrsiau, edrychwch ar res y cwrs rydych eisiau ei guddio a dad-dicio'r blwch yng ngholofn Enw'r Cwrs.
- Gwnewch yn siŵr bod pob tic wedi'u clirio yn rhes y cwrs hwnnw.
- Gwnewch hyn eto ar gyfer unrhyw gwrs rydych eisiau eu cuddio.
- Dewiswch Cyflwyno.