Neges wall

  • Notice: Undefined variable: token in bb_coveo_search_ui_block_page_attachments() (line 53 of modules/custom/bb_widgets/bb_coveo_search_ui/bb_coveo_search_ui_block.module).
  • Warning: array_flip(): Can only flip STRING and INTEGER values! in Drupal\Core\Entity\EntityStorageBase->loadMultiple() (line 312 of core/lib/Drupal/Core/Entity/EntityStorageBase.php).

Ynglŷn â phroffiliau

Mae proffil yn dangos sut rydych eisiau cyflwyno'ch hun i'ch cyfoedion ac i fyfyrwyr. Yn eich proffil Blackboard, chi sy'n penderfynu beth rydych chi eisiau cael eich galw, a ydych am rannu'ch diddordebau academaidd, llun proffil a mwy.

Os caniateir, gallwch olygu'ch gwybodaeth bersonol sydd wedi'i storio yn eich cyfrif defnyddiwr yn eich sefydliad.

Mwy ar wybodaeth bersonol

 


Ychwanegu llun proffil

Os caniateir, gallwch uwchlwytho llun proffil sy'n ymddangos trwy gydol y system ac o fewn rhwydwaith academaidd ehangach Blackboard.

Mae eich delwedd bersonol yn ymddangos ym mhennyn y dudalen, offer pobl, blogiau, dyddlyfrau, trafodaethau, wikis ac amserlen. Mae'ch llun proffil hefyd yn ymddangos yn y modiwlau hysbysiadau, megis Beth sy'n Newydd. Gall y modiwlau ymddangos ar dap Fy Sefydliad neu ar hafan cwrs.

Mae'r ddelwedd y byddwch yn uwchlwytho i'ch tudalen proffil yn disodli unrhyw ddelwedd proffil arall sydd gennych gyda'ch cyfrif defnyddiwr.

Rhaid i ddelweddau fod yn llai na 5MB gyda dimensiwn o leiaf 50 x 50 picsel. Ymhlith y fformatau ffeil derbyniol mae GIF, PNG, a JPEG.

Does dim eicon proffil yn ymddangos yn y ddewislen

Os nad ydych yn gweld yr eicon proffil gwag yn y ddewislen, nid yw'ch sefydliad wedi galluogi offer proffil.

  1. Dewiswch y saeth nesaf at eich enw ym mhennyn y dudalen i agor y ddewislen.
  2. Dewiswch Offer ar waelod y panel.
  3. Dewiswch Gwybodaeth Bersonol > Personoli Fy Ngosodiadau.
  4. Ar y dudalen Personoli Fy Ngosodiadau, dewiswch Defnyddio delwedd rhithffurf bersonol a phorwch eich cyfrifiadur am eich llun.
  5. Dewiswch Cyflwyno. Mae'ch llun proffil yn ym mhennyn y dudalen nesaf at eich enw.

Proffil

  1. Ar dudalen Golygu Fy Mhroffil Blackboard yn y panel ar y dde, dewiswch Newid Llun i uwchlwytho llun o'ch cyfrifiadur.
  2. Dewiswch Cyflwyno.

Video: Add a Profile Picture


Watch a video about adding a profile picture

The following narrated video provides a visual and auditory representation of some of the information included on this page. For a detailed description of what is portrayed in the video, open the video on YouTube, navigate to More actions, and select Open transcript.


Video: Add a profile picture shows how to upload your profile picture.