Neges wall
- Notice: Undefined variable: token in bb_coveo_search_ui_block_page_attachments() (line 53 of modules/custom/bb_widgets/bb_coveo_search_ui/bb_coveo_search_ui_block.module).
- Warning: array_flip(): Can only flip STRING and INTEGER values! in Drupal\Core\Entity\EntityStorageBase->loadMultiple() (line 312 of core/lib/Drupal/Core/Entity/EntityStorageBase.php).
Lawrlwytho asesiadau
I gyflymu'ch proses raddio, gallwch lawrlwytho cyflwyniadau myfyrwyr ar gyfer asesiadau a’u gweld all-lein. Gallwch lawrlwytho'r cyfan neu gyflwyniadau penodol yn unig fel ffeil ZIP unigol. Dad-sipiwch neu gwnewch y ffeil yn fwy i edrych ar y cynnwys. Cedwir pob cyflwyniad fel ffeil unigol ag enw defnyddiwr pob myfyriwr.
Caniateir i'ch Cynorthwywyr Addysgu, Hwyluswyr a Graddwyr lawrlwytho cyflwyniadau ar gyfer asesiadau hefyd.
Gallwch lawrlwytho'r cynnwys a'r ffeiliau mae myfyrwyr yn eu creu a’u hatodi yn y golygydd ar gyfer eu cyflwyniadau.
Ni allwch lawrlwytho'r cynnwys na’r ffeiliau a atodir i gwestiynau asesiadau. Er enghraifft, os oes gan asesiad gwestiynau Traethawd yn unig, ni lawrlwythir atebion myfyrwyr. Ni allwch hefyd lawrlwytho trafodaethau, gwaith grŵp, neu gyflwyniadau dienw.
Dewiswch yr opsiwn lawrlwytho o’r adrannau hyn yn y llyfr graddau:
- Golwg rhestr: Tudalen Cyflwyniadau eitem > dewislen yn rhes y pennawd
- Golwg grid: Dewislen eitem
Tudalen Lawrlwytho Ffeiliau Asesiadau
Ar y dudalen Lawrlwytho Ffeiliau Asesiadau, dewiswch bennawd y golofn Enw neu Dyddiad i drefnu'r cyflwyniadau.
- Dewiswch y blwch ticio nesaf at y golofn Enw i ddewis pob cyflwyniad neu ddewis cyflwyniadau’n unigol. Os fyddwch yn dewis pob cyflwyniad, cynhwysir ond y cyflwyniadau â ffeiliau a thestun a roddir gan fyfyrwyr yn y golygydd yn y ffeil ZIP.
Os ydych wedi caniatáu ymgeisiau lluosog, cynhwysir ffeiliau pob ymgais ar gyfer pob myfyriwr.
- Dewiswch Creu Ffeil ZIP i ddechrau'r broses.
- Yn y ffenestr naid, dewiswch Anfon. Crëir y ffeil yn y cefndir a byddwch yn mynd yn ôl i’r dudalen rhestr neu wedd grid Cyflwyniadau yn awtomatig. Mae’r broses yn cymryd ychydig o funudau yn seiliedig ar faint y ffeil.
Byddwch yn derbyn e-bost a neges gwrs pan fydd y ffeil ZIP yn barod i'w lawrlwytho i'ch cyfrifiadur. Ar dudalen Negeseuon eich cwrs neu yn eich e-bost, dewiswch y ddolen Lawrlwytho nawr.
Os byddwch yn dileu'r e-bost a'r neges gwrs â'r ddolen i lawrlwytho'r ffeil, bydd rhaid i chi ail-redeg y lawrlwytho. Bydd y ffeil ZIP yn parhau yn y system nes rhedir proses glanhau’r system arferol—pob 90 diwrnod neu’n hwy—neu nes i weinyddwr ddileu'r ffeil â llaw. Cysylltwch â'ch gweinyddwr am ragor o wybodaeth.
Gweld cynnwys y ffeil ZIP
Mae gan gyfrifiaduron Windows a Mac alluoedd wedi eu mewnosod i edrych ar ac echdynnu pecynnau ffeil ZIP cywasgedig. I ddysgu rhagor, edrychwch ar y cymorth sydd ar gael o system gweithredu'ch cyfrifiadur.
Ar ôl dad-sipio'r ffeil, bydd ffolder yn ymddangos â ffeiliau pob cyflwyniad. Cynhwysir enwau defnyddwyr yn awtomatig yn enwau'r ffeiliau er mwyn eu hadnabod yn haws.
Ffeiliau a gynhwysir yn y ffeil ZIP
Ffeiliau TXT: Os ddefnyddiodd myfyriwr y golygydd i gwblhau'r asesiad, bydd testun y cyflwyniad yn ymddangos mewn ffeil TXT. Byddwch hefyd yn gweld manylion am y cyflwyniad, megis dyddiad cyflwynwyd y gwaith. Neges Atgoffa: Ni lawrlwythir cynnwys a ffeiliau a atodwyd i gwestiynau asesiadau.
Ffeiliau'r cyflwyniad: Os yw'r myfyriwr yn uwchlwytho un neu ragor o ffeiliau fel cyflwyniad, byddant yn ymddangos yn y rhestr. Er enghraifft, efallai byd cyflwyniad myfyriwr yn cynnwys dogfen Word, ffeil delwedd, a chyflwyniad sleidiau. Neges Atgoffa: Os ydych wedi caniatáu ymgeisiau lluosog, cynhwysir ffeiliau pob ymgais ar gyfer pob myfyriwr.
Cyfuniad: Gall myfyriwr ddarparu testun ac atodi ffeiliau yn y golygydd i gwblhau'r cyflwyniad.