Copîo Eitemau Cwrs o'r tu mewn i Gyrsiau Ultra
Mae Learn Ultra yn caniatáu i hyfforddwyr ddyblygu cynnwys cyrsiau o'r tu mewn i'r cyrsiau Ultra maent yn eu dysgu. Mae'r nodwedd hon yn caniatáu i hyfforddwyr neu unrhyw un sy'n gallu creu neu ychwanegu cynnwys at Ultra ddewis eitemau cwrs unigol neu ffolderi cyfan. Mae'r gallu i gopïo eitemau cynnwys heb greu cynnwys o'r dechrau yn rhoi datrysiad sy'n arbed amser i hyfforddwyr wrth iddynt greu eu cyrsiau.
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i fudiadau hefyd.
Sut i Gopïo Cynnwys Cwrs
-
Dewiswch yr arwydd plws yn Adran Cynnwys y Cwrs.
-
Dewiswch Copïo Cynnwys o'r ddewislen.
3. Dewiswch gopïo'r cyfan neu ddewis eitemau cynnwys unigol o ffolder neu fodiwl.
4. Cliciwch ar y botwm Copïo'r Cynnwys a Ddetholwyd i gwblhau dewis yr eitemau cwrs i'w copïo.
Ar ôl i broses gopïo'r cwrs orffen, bydd yr eitemau o gynnwys cwrs a gopïwyd yn ymddangos ar frig adran Cynnwys y Cwrs.
Os oes gwall wrth gopïo'r cynnwys, bydd adroddiad gwall yn ymddangos ar frig adran Cynnwys y Cwrs. Agorwch yr adroddiad gwall i ddysgu pa eitemau cynnwys heb gael eu copïo'n llwyddiannus.
Eitemau cwrs nad oes modd eu copïo
Ym mhanel Cynnwys y Cwrs, rhestrir pob un o'r eitemau cwrs sydd ar gael i'w copïo. Gallwch ddewis copïo cwrs cyfan neu eitemau unigol. Pan fyddwch yn copïo cynnwys cwrs cyfan, caiff y gosodiadau gweladwyedd eu trosglwyddo i gopi'r cwrs. Er enghraifft, bydd cynnwys cudd yn y cwrs a gopïwyd yn parhau i fod wedi'i guddio yn y copi.
Ni chynhwysir data presenoldeb wrth ichi gopïo cwrs i gwrs newydd neu gwrs presennol. Tynnir yr opsiwn presenoldeb o’r opsiynau copïo. Cynhwysir data presenoldeb mewn copi union o gwrs
Rhagor am bresenoldeb a chopïo cwrs
Mathau o Gynnwys a Gefnogir
-
Ffolderi
-
Dogfennau
-
Profion, gan gynnwys profion grŵp
-
Aseiniadau, gan gynnwys aseiniadau grŵp
-
Gwefannau â dolen iddynt
-
Pecynnau SCORM
-
Trafodaethau a Dyddlyfrau
-
Modiwlau Dysgu
Oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am y mathau o gynnwys a gefnogir? Ewch i Copïo Cynnwys o Gyrsiau Eraill am ragor o wybodaeth.
Adolygwch bob eitem sydd wedi'i chopïo er mwyn sicrhau eich bod yn dangos y cynnwys rydych am ei ddangos.
Methu dod o hyd i'r hyn rydych yn chwilio amdano? Os ydych am gopïo cynnwys o gwrs hyfforddwr arall, ni fydd yn ymddangos yn eich rhestr. Mae rhaid i'r hyfforddwr hwnnw allgludo'r cynnwys, ei anfon atoch, ac wedyn gallwch ei fewngludo yn eich cwrs.