Neges wall

  • Notice: Undefined variable: token in bb_coveo_search_ui_block_page_attachments() (line 53 of modules/custom/bb_widgets/bb_coveo_search_ui/bb_coveo_search_ui_block.module).
  • Warning: array_flip(): Can only flip STRING and INTEGER values! in Drupal\Core\Entity\EntityStorageBase->loadMultiple() (line 312 of core/lib/Drupal/Core/Entity/EntityStorageBase.php).

Mewngludo cynnwys cwrs

Gallwch fewngludo pecyn cwrs o gwrs blaenorol neu hyfforddwr arall. Wrth fewngludo cynnwys, caiff y cyfan o gynnwys y cwrs hwnnw ei fewngludo. Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i fudiadau hefyd.

Gallwch hefyd fewngludo ffeiliau ZIP o gronfeydd cwestiynau neu adnoddau cwestiynau eraill i'ch cwrs Ultra. Mae cronfeydd cwestiynau'r cwrs Gwreiddiol yn ymddangos fel banciau cwestiynau ar ôl eu trosi.

Mae allgludo/mewngludo yn creu colofn presenoldeb na allwch ei dileu, ond nid ychwanegir data presenoldeb ati.

Rhagor am bresenoldeb ac allgludo/mewngludo

Mewngludo cynnwys

Ar dudalen Cynnwys y Cwrs, agorwch y ddewislen i'r dde uwchben y rhestr cynnwys. Dewiswch Mewngludo Cynnwys > Mewngludo Cynnwys Cwrs a dewiswch y pecyn cwrs i'w uwchlwytho o’ch cyfrifiadur. Bydd yr holl gynnwys o'r pecyn yn cael eu mewngludo i’ch cwrs. Bydd y cynnwys newydd i’w weld ar waelod y rhestr gynnwys. Nid yw pecynnau a fewngludwyd yn cynnwys manylion ymrestru myfyrwyr na’u data, megis manylion am eu trafodaethau neu eu graddau.

Dim ond ffeiliau cywasgedig y mae modd eu mewngludo. Cefnogir mathau o ffeil ZIP ac IMSCC.

Gallwch hefyd fewngludo ffeiliau o storfa cwmwl ac ychwanegu cynnwys o'r Casgliad Cynnwys.

Wrth i’r cynnwys gael ei fewngludo, ymddengys neges yn y rhestr cynnwys.

A ydych am gopïo darnau unigol o gynnwys? Rhagor am sut i gopïo cynnwys rhwng cyrsiau.

Panel Manylion Mewngludo

Pan fydd y llif gwaith wedi’i gwblhau, os nad oedd modd mewngludo rhai eitemau o’r Wedd Cwrs Gwreiddiol i Wedd Cwrs Ultra, rhestrir rhif.

Cliciwch ar y rhif ar waelod y sgrin i weld y rhestr o gynnwys y mae’r system am ichi fwrw golwg drosti. Bydd panel yn agor. Dewiswch eitem am ragor o wybodaeth. Dewiswch yr X yn y bar du ar y brig i ddychwelyd i'r rhestr yn y panel.


Mewngludo cwrs yn CourseSites

Mae'r CourseSites newydd yn rhoi mynediad at amgylchedd dysgu digidol cynhwysfawr Blackboard, gan gynnwys Learn, Collaborate, Ally, a'n apiau symudol i addysgwyr ar draws y byd. CourseSites yw eich lle i roi cynnig ar brofiad Ultra ac i ddysgu cyrsiau ar-lein, am ddim.

Gallwch arbrofi gyda'ch cyrsiau Gwreiddiol cyfredol yn CourseSites.

Rhagor am CourseSites

Rhagor am fewngludo cyrsiau Gwreiddiol yn CourseSites