Neges wall

  • Notice: Undefined variable: token in bb_coveo_search_ui_block_page_attachments() (line 53 of modules/custom/bb_widgets/bb_coveo_search_ui/bb_coveo_search_ui_block.module).
  • Warning: array_flip(): Can only flip STRING and INTEGER values! in Drupal\Core\Entity\EntityStorageBase->loadMultiple() (line 312 of core/lib/Drupal/Core/Entity/EntityStorageBase.php).

Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Wedd Cwrs Ultra yn unig.

Beth yw Swp-olygu?

Mae rheoli cynnwys wrth sefydlu a chynnal cyrsiau'n cymryd amser. Mae hyfforddwyr yn treulio amser gwerthfawr yn trefnu cynnwys ac asesiadau yn ofalus ac yn ei ryddhau i fyfyrwyr eu cyrchu ar adegau penodol.

Yn y Wedd Cwrs Ultra, gallwch ddefnyddio Swp-olygu i ddiweddaru gosodiadau cyffredin ar draws yr holl gynnwys, megis gweladwyedd a dyddiadau cyflwyno. Gallwch hefyd ddefnyddio'r offeryn i ddileu grŵp o gynnwys cwrs a ddewiswyd. Gyda Swp-olygu, gallwch reoli gosodiadau cynnwys mewn un lle ac ar yr un pryd.

Ar y dudalen Cynnwys y Cwrs, agorwch y ddewislen i'r dde uwchben y rhestr cynnwys. Dewiswch Swp-olygu.

Ar y dudalen Swp-olygu, bydd eich holl gynnwys yn ymddangos yn yr un modd ag y mae ar dudalen Cynnwys y Cwrs. Trefnwch y rhestr yn ôl teitl yr eitem, categori neu weladwyedd.


Golygu gweladwyedd cynnwys

  1. Ar y dudalen Swp-olygu, dewiswch y blychau ticio nesaf at yr eitemau rydych eisiau eu diweddaru. Gallwch ddewis eitemau unigol o gynnwys neu gallwch olygu gweladwyedd ffolderi.
  2. Ar waelod y ffenestr nesaf at Golygu’r detholiad, agorwch y ddewislen Opsiynau a dewiswch Golygu gweladwyedd.
  3. Dewiswch ddangos neu guddio'r cynnwys o fyfyrwyr a dewiswch Cadw Gweladwyedd.
  4. Bydd neges yn ymddangos yn dweud y diweddarwyd eich cynnwys yn llwyddiannus. Dewiswch Gweld Manylion i gadarnhau gosodiadau gweladwyedd y cynnwys.

Ar yr adeg hon, ni allwch ddefnyddio rheolau rhyddhau amodol gyda Swp-olygu.

Ffolderi cynnwys

Mae ffolderi'n fodd defnyddiol o drefnu a rhyddhau cynnwys cysylltiedig yn eich cwrs. Ar y cyd â Swp-olygu, mae ffolderi'n gallu helpu lleddfu baich rheoli cynnwys.

Gallwch ddiweddaru gweladwyedd ffolderi gyda Swp-olygu, yn yr un modd ag y gallwch ei wneud ar gyfer eitemau unigol o gynnwys. Sicrhewch eich bod yn gwneud newidiadau i'r cynnwys sydd gennych ar agor. Ni allwch ddewis a golygu cynnwys rhwng ffolderi lluosog.

  1. Ar y dudalen Swp-olygu, dewiswch ffolder i'w hagor.
  2. Dewiswch gynnwys o fewn y ffolder a dewiswch Golygu'r detholiad > Golygu gweladwyedd.
  3. Dewiswch ddangos neu guddio'r cynnwys o fyfyrwyr a dewiswch Cadw Gweladwyedd.
  4. Bydd neges yn ymddangos yn dweud y diweddarwyd eich cynnwys yn llwyddiannus. Dewiswch Gweld Manylion i gadarnhau gosodiadau gweladwyedd y cynnwys.

Os byddwch yn cuddio ffolder o fyfyrwyr, bydd yr holl gynnwys yn y ffolder hefyd yn cael ei guddio. Os fyddwch yn gwneud ffolder yn weladwy, gallwch ddal i reoli gweladwyedd yr eitemau yn y ffolder. Gallwch ddewis dangos neu guddio cynifer o eitemau mewn ffolder ag y mynnwch.

Caiff gosodiadau gweladwyedd cynnwys eu cadw os byddwch yn newid gweladwyedd y ffolder. Er enghraifft, mae gennych ffolder gyda phum dogfen weladwy a phrawf cudd. Pan fydd y ffolder wedi'i guddio, ni fydd myfyrwyr yn gweld y cynnwys. Pan fyddwch yn newid y ffolder i Gweladwy i fyfyrwyr, bydd y pum dogfen hefyd yn weladwy bellach ond bydd y prawf dal yn gudd.


Golygu dyddiadau dyledus

Gallwch ddefnyddio Swp-olygu i ddiweddaru dyddiadau dyledus cynnwys pan fyddwch yn ailddefnyddio, copïo neu fewngludo cynnwys. Os ddysgoch gyrsiau yn ystod tymor neu flwyddyn calendr blaenorol, mae Swp-olygu yn eich caniatáu i ddewis mwy nag un darn o gynnwys ac addasu dyddiadau dyledus gan ddefnyddio llai o gamau.

  1. Ar y dudalen Swp-olygu, dewiswch y blychau ticio nesaf at yr eitemau rydych eisiau eu diweddaru. Gallwch ddewis eitemau unigol o gynnwys neu ffolderi.
  2. Ar waelod y ffenestr nesaf at Golygu’r detholiad, dewiswch Golygu dyddiadau yn y ddewislen Opsiynau.
  3. Dewiswch ddiweddaru dyddiadau cyflwyno yn seiliedig ar ddyddiad dechrau y cwrs neu'n seiliedig ar nifer o ddiwrnodau.
    • Newid dyddiadau'n seiliedig ar ddyddiad dechrau y cwrs: Dewiswch Dyddiad dechrau presennol a Dyddiad dechrau newydd. Bydd yr offeryn yn cyfrifo nifer y diwrnodau rhwng y ddau ddyddiad yn awtomatig ac yn addasu'r holl ddyddiadau dyledus gan ddefnyddio'r nifer hwnnw. Ar ôl i chi ddewis dau ddyddiad, bydd neges yn ymddangos i gadarnhau sawl diwrnod sydd rhyngon nhw.
      Enghraifft: Ailddefnyddiodd fy nghynnwys cwrs o dymor blaenorol, pan oedd dyddiad dechrau'r cwrs yn Awst 19, 2019. Dyddiad dechrau fy nghwrs newydd yw Ionawr 6, 2020. Ychwanegir 140 diwrnod at yr holl ddyddiadau dyledus.
    • Newid y dyddiad gan ddefnyddio nifer y diwrnodau: Teipiwch rif yn y blwch Symud dyddiadau ymlaen neu Symud dyddiadau yn ôl. Bydd yr holl ddyddiadau dyledus ar gyfer y cynnwys a ddewiswyd yn symud ymlaen neu yn ôl yn seiliedig ar y blwch a'r rhif a ddewiswch chi.
      Enghraifft: Mae fy nghwrs yn barod ond mae eira mawr ar gychwyn y tymor yn gwthio'r calendr academaidd yn ôl ychydig o ddyddiau. Ychwanegir 4 diwrnod at yr holl ddyddiadau dyledus.
  4. Bydd neges yn ymddangos yn dweud y diweddarwyd eich cynnwys yn llwyddiannus. Dewiswch Gweld Manylion i gadarnhau pa gynnwys y diweddarwyd.

Ni fydd hyn yn effeithio ar gynnwys heb ddyddiadau dyledus os yw yn y detholiad.


Dileu eitemau cwrs lluosog

Gallwch ddefnyddio Swp-olygu i ddileu darnau lluosog o gynnwys cwrs ar unwaith.

  1. Ar y dudalen Swp-olygu, dewiswch y blychau ticio nesaf at yr eitemau rydych eisiau eu diweddaru. Gallwch ddewis eitemau unigol o gynnwys neu ffolderi.
  2. Ar waelod y ffenestr nesaf at Golygu'r detholiad, dewiswch Dileu eitemau yn y ddewislen Opsiynau.
  3. Os ydych yn sicr eich bod am ddileu'r cynnwys a ddewiswyd yn barhaol, dewiswch Dileu. Neu, dewiswch Canslo i adael y cynnwys fel y mae.

Golygu cynnwys ar draws ffolderi

Mae Swp-olygu ond yn caniatáu i chi olygu cynnwys o fewn y ffolder rydych yn edrych arni ar y pryd. Ni allwch ddewis cynnwys mewn dwy ffolder wahanol a diweddaru gweladwyedd, newid dyddiadau, neu ddileu ar yr un pryd.

Gwnewch ddetholiad ar y sgrîn bresennol a gorffenwch eich tasg cyn ichi adael. Gallwch ddewis cymysgedd o eitemau a ffolderi, ond gallwch ond olygu'r eitemau ar yr un pryd os ydynt yn ymddangos ar yr un sgrîn.

Pan fyddwch yn llywio i mewn neu allan o ffolder, caiff eich dewisiadau cynnwys blaenorol eu clirio.


Cynnwys ac offer a gefnogir yn Swp-olygu

Cefnogir yr eitemau hyn sy'n ymddangos ar dudalen Cynnwys y Cwrs yn Swp-olygu:

  • Dogfennau, ffeiliau a dolenni
  • Ffolderi a modiwlau dysgu
  • Pecynnau SCORM
  • Adnoddau addysgu gyda chysylltiadau LTI
  • Asesiadau, megis profion ac aseiniadau
  • Trafodaethau a dyddlyfrau

Ni allwch symud dyddiadau cyflwyno neu weladwyedd ar gyfer colofnau gradd â llaw gyda Swp-olygu.

Ni allwch symud dyddiadau dechrau a gorffen sesiwn Blackboard Collaborate gyda Swp-olygu. Gallwch ddefnyddio Swp-olygu i olygu gweladwyedd ar gyfer y dolenni i'r sesiynau sy'n ymddangos ar dudalen Cynnwys y Cwrs. Mae angen i chi olygu dyddiadau dechrau a gorffen sesiwn Blackboard Collaborate yn y Trefnydd Collaborate.