Neges wall
- Notice: Undefined variable: token in bb_coveo_search_ui_block_page_attachments() (line 53 of modules/custom/bb_widgets/bb_coveo_search_ui/bb_coveo_search_ui_block.module).
- Warning: array_flip(): Can only flip STRING and INTEGER values! in Drupal\Core\Entity\EntityStorageBase->loadMultiple() (line 312 of core/lib/Drupal/Core/Entity/EntityStorageBase.php).
Chwilio a llywio'r calendr
O'r calendr hollgynhwysol yn y rhestr lle mae eich enw'n ymddangos, gallwch weld eich holl ddyddiadau dyledus a chyfarfodydd sydd ar y gweill ar draws eich cyrsiau — y cyfan yn yr un lle.
Yn eich calendr, dewch o hyd i wybodaeth am y digwyddiad hwn:
- Oriau swyddfa: Bydd y apwyntiadau hyn yn ymddangos yn awtomatig ar y calendr pan fyddwch yn eu hychwanegu at gwrs.
- Dyddiadau dyledus: Pan fyddwch yn creu cynnwys gyda dyddiad dyledus, mae'n ymddangos yn awtomatig yn y calendr.
Edrychwch yng nghalendr eich cwrs.
Pan fyddwch yn defnyddio'r calendr o'r tu mewn i gwrs, mae'n dangos digwyddiadau ar gyfer y cwrs hwnnw yn unig. Dewiswch dab Calendr o far llywio'r cwrs.
Mae gwedd cwrs y calendr yn dangos dyddiadau cyflwyno, amserlen y cwrs, oriau swyddfa, a chyfarfodydd a digwyddiadau penodol i'r cwrs. Pan fyddwch yn creu cynnwys gyda dyddiad dyledus, mae'n ymddangos yn awtomatig yn y calendr.
Mae pob digwyddiad yr ydych yn ei yn ei greu o fewn cwrs penodol yn mynd i'r calendr hollgynhwysol. Gallwch newid i'r darlun mawr drwy fynd at eich calendr hollgynhwysol o'r rhestr lle mae eich enw'n ymddangos.
Dewis eich gwedd
- Dewiswch Diwrnod neu Mis i nesáu i dasgiau un diwrnod neu gynllunio am yr wythnosau i ddod.
- Dewiswch Dyddiadau Cyflwyno i ganolbwyntio ar eich dyddiadau cau sydd ar ddod.
- Dewiswch yr eicon Gosodiadau Calendr yn y gornel dde ar frig y dudalen i ddewis y calendrau yr ydych eisiau eu gweld.
Creu a golygu digwyddiad
I ychwanegu digwyddiadau at eich calendr personol, dewiswch Calendr o'r rhestr ar y chwith lle mae eich enw yn ymddangos. Dewiswch y symbol plws ac ychwanegu teitl digwyddiad, dyddiad, amser a lleoliad.
Dewiswch deitl digwyddiad a wnaethoch ei ychwanegu i newid ei fanylion.
Gallwch symud a dileu digwyddiadau yn eich calendr. Llusgwch a gollwng digwyddiadau personol i newid amserau neu ddileu digwyddiadau personol nad oes mo'u hangen arnoch bellach. Ni all myfyrwyr ddileu neu symud digwyddiadau a ychwanegwyd gennych.
Rhannu’ch calendr
Mae'ch amserlen yn gymysgedd o ymrwymiadau academaidd a phersonol. I'ch helpu cadw llygad ar bopeth sy'n digwydd, mae rhoi popeth ar un calendr yn helpu.
Gallwch rannu'ch calendr Blackboard Learn â gwasanaethau allanol fel y bydd eich digwyddiadau cwrs yn ymddangos gyda digwyddiadau eraill.
Ni allwch rannu calendrau ar gyfer cyrsiau unigol. Pan fyddwch yn rhannu'ch calendr, bydd digwyddiadau ar gyfer pob un o'ch cyrsiau yn ymddangos.
- Dewiswch Calendr yn y ddewislen lle mae'ch enw yn ymddangos yn gyntaf.
- Dewiswch yr eicon Gosodiadau Calendr.
- Agorwch y ddewislen nesaf at bennawd Gosodiadau Calendr.
- Dewiswch Rhannu Calendr.
- Yn y ffenestr, copïwch ddolen y calendr. Rhannwch yr URL â ffynonellau dibynadwy yn unig.
Pan fyddwch yn cysylltu'ch calendr Blackboard Learn â chalendr allanol, bydd pob digwyddiad cwrs yn ymddangos am un flwyddyn yn y gorffennol ac yn y dyfodol.
Ychwanegu calendr at iCal
I rannu'ch calendr Blackboard Learn â iCal, byddwch yn ei ychwanegu fel tanysgrifiad calendr.
- Agorwch iCal ar eich Mac.
- Ewch i Ffeil > Tanysgrifiad Calendr Newydd.
- Gludwch ddolen y calendr Blackboard Learn a dewiswch Tanysgrifio.
- Rhowch enw'r calendr ac addasu gosodiadau eraill. Yn y maes Lleoliad, dewiswch iCloud os ydych eisiau i'r calendr ymddangos ar eich dyfeisiau Apple eraill megis iPhone neu iPad.
- Dewiswch Iawn i orffen gosod.
Ychwanegu calendr at Calendr Google
Rhannu'ch calendr Blackboard Learn â Calendr Google i weld pob digwyddiad mewn un lle.
- Agorwch eich calendr Google ar gyfrifiadur.
- Nesaf at Ychwanegu calendr, pwyntiwch i Ychwanegu calendrau eraill a dewiswch O URL yn y ddewislen.
- Gludwch ddolen y calendr Blackboard Learn a dewiswch Ychwanegu calendr i orffen gosod.
- Agorwch osodiadau'r calendr i'w ailenwi ac addasu'r gosodiadau rhannu a hysbysiadau.
Ychwanegu calendr allanol
Os yw'n well gennych ddefnyddio calendr Blackboard Learn, gallwch hefyd ychwanegu ffeil calendr allanol at eich calendr Blackboard Learn fel bydd digwyddiadau cwrs yn ymddangos gyda’ch digwyddiadau eraill.
- Dewiswch Calendr yn y ddewislen lle mae'ch enw yn ymddangos yn gyntaf.
- Dewiswch yr eicon Gosodiadau Calendr.
- Agorwch y ddewislen nesaf at bennawd Gosodiadau Calendr.
- Dewiswch Ychwanegu Calendr.
- Yn y ffenestr, llusgwch a gollwng eich ffeil calendr. Gallwch glicio i uwchlwytho'r ffeil hefyd. Cefnogir ffeiliau ICS yn unig.
- Bydd enw'r ffeil yn ymddangos yn y ffenestr. Os ddewisoch y ffeil anghywir neu ydych eisiau newid eich detholiad, dewiswch yr eicon Dileu.
- Dewiswch Ychwanegu Calendr i orffen a mewnforio digwyddiadau.
Pan fyddwch yn ychwanegu'ch calendr allanol at Blackboard Learn, bydd digwyddiadau yn ymddangos am flwyddyn yn y gorffennol ac yn y dyfodol. Mae’r digwyddiadau wedi’u grwpio o dan Fy Nghalendr Personol i ddangos eich bod wedi’u hychwanegu eich hun. Ni fydd y digwyddiadau yn cyfeirio at y calendr neu enw'r ffeil a uwchlwythoch.
Gallwch olygu neu ddileu digwyddiadau rydych yn eu huwchlwytho yn union fel unrhyw ddigwyddiad arall rydych yn ei ychwanegu.
Beth yw ICS?
Mae ICS yn cyfeirio at fath o ffeil calendr wedi’i safoni sy’n caniatáu i chi allgludo a mewngludo ffeiliau rhwng rhaglenni gwahanol. Mae’r ffeiliau hyn yn defnyddio .ics ar ddiwedd enw'r ffeil. Mae nifer o raglenni calendr poblogaidd, gan gynnwys Google Calendar ac Apple Calendar yn defnyddio'r safon ICS.