Eich Gwedd Cwrs

Mae holl gynnwys eich cyrsiau'n ymddangos ym mhrif ran y dudalen. Pan fyddwch yn agor darn o gynnwys, mae'n llithro allan mewn haen ar ben tudalen Cynnwys y Cwrs. Caewch yr haenau i ddychwelyd i le roeddech yn flaenorol yn eich cwrs.

  1. Bar llywio: Agor offer a ddefnyddir yn aml mewn un cam. Dewiswch dab i wirio calendr y cwrs, ymateb i drafodaethau dosbarth, cyrchu llyfr graddau'r cwrs ac anfon neges.
  2. Manylion & Gweithredoedd: Rheoli'ch cwrs gyda'r opsiynau hyn:
    • Creu a rheoli grwpiau: Gallwch greu setiau o grwpiau i'w defnyddio ar gyfer aseiniadau, profion a thrafodaethau a raddir. Gallwch hefyd greu grwpiau ar gyfer gweithgareddau eraill nad ydynt yn cynnwys gwaith a raddir, fel gwirfoddoli neu deithiau a gofyn i fyfyrwyr hunangofrestru.
    • Rhestr: Gweld eich rhestr dosbarth. Gallwch gyrchu cardiau proffil ac uno wynebau ag enwau. Gallwch anfon negeseuon at unrhyw un sy'n gysylltiedig â'ch cwrs hefyd.
    • Argaeledd cyrsiau:
      • Agor: Agor cwrs pan fyddwch yn barod i fyfyrwyr gymryd rhan.
      • Preifat: Gwnewch gwrs yn breifat wrth i chi ychwanegu neu arbrofi gyda chynnwys, ac wedyn agorwch ef i fyfyrwyr pan fyddwch yn barod. Mae myfyrwyr yn gweld cyrsiau preifat ar eu rhestrau cwrs ond ni allant eu cyrchu.
    • Blackboard Collaborate: Defnyddiwch y sesiwn Blackboard Collaborate fel pwynt lansio cyfleus ar gyfer cyfarfodydd a amserlennir ac ar fyr rybudd. Mae'r eicon yn ymddangos mewn porffor i ddangos i chi ac aelodau eraill y cwrs pan fydd pobl yn weithredol yn yr ystafell Collaborate.
    • Presenoldeb: Marcio graddau presenoldeb a chael mynediad at gofnodion manwl.
    • Cyhoeddiadau: Creu neu amserlennu cyhoeddiadau cwrs y gall pob aelod o'r cwrs eu gweld.
  3. Ychwanegu cynnwys: Dewiswch yr arwydd plws lle bynnag rydych am ychwanegu cynnwys. Os ydych am gopïo neu fewngludo cynnwys, agorwch y ddewislen i'r dde uwchben y rhestr cynnwys.
  4. Gweithgaredd newydd: Os ydych wedi galluogi sgyrsiau ar gynnwys, bydd eiconau gweithgarwch yn ymddangos ar gyfer gweithgarwch sgyrsiau newydd. Bydd yr eicon gweithgarwch hefyd yn ymddangos ar weithgarwch trafodaethau a sgyrsiau grŵp newydd.

    Rhagor am sgyrsiau

Os byddwch chi’n gweld eicon mesurydd wrth ymyl eich ffeiliau, mae eich sefydliad yn defnyddio Blackboard Ally i fesur hygyrchedd cynnwys eich cwrs. I ddysgu mwy, ewch i Cymorth Ally ar gyfer hyfforddwyr.

Addasu eich cwrs

Os yw wedi'i ganiatáu, gallwch ychwanegu delwedd baner cwrs i helpu i bersonoli eich cwrs. Caiff eich delwedd ei dangos ar frig tudalen Cynnwys y Cwrs ac fel mân-lun cerdyn y cwrs yn y rhestr Cyrsiau.

Eich gweinyddwr sy'n pennu argaeledd delweddau cwrs

Dewiswch Golygu'r gosodiadau dangos dan Delwedd y Cwrs o'r cwarel Manylion a Gweithrediadau.

Gallwch olygu delwedd cwrs sydd eisoes yn bodoli neu uwchlwytho delwedd newydd. Yn ddiofyn, defnyddir yr un ddelwedd ar gyfer delwedd y cwrs â'r ddelwedd a ddefnyddir ym mân-lun cerdyn y cwrs. Os nad ydych yn uwchlwytho delwedd newydd, daw delwedd cerdyn y cwrs yn ddelwedd y cwrs. 

Dewiswch Uwchlwytho delwedd newydd a dewiswch y ddelwedd rydych eisiau ei huwchlwytho. Mae rhaid i'ch delwedd fod o leiaf 1200 x 240 o bicseli ac ni all fod yn fwy na 25 KB. Dylid osgoi defnyddio delweddau â thestun gan nad ydynt yn hygyrch ac nid ydynt yn cael eu mwyhau/lleihau yn dda. 

Gallwch lusgo i symud safle eich delwedd a defnyddio'r rheolydd llithro i nesáu at eich delwedd. Dewiswch Cadw pan rydych wedi gorffen. 

Os hoffech ychwanegu testun amgen ar gyfer darllenyddion sgrin, teipiwch ddisgrifiad o'r ddelwedd yn y blwch testun amgen. Dewiswch Marcio fel addurnol os nad oes angen testun amgen.

Defnyddir eich delwedd newydd fel delwedd cerdyn y cwrs yn y rhestr Cyrsiau. Os byddwch yn toglo delwedd y cwrs ymlaen, bydd hefyd yn ymddangos yn eich cwrs.

Ddim yn hoffi'r ddelwedd newydd? Ym mhanel gosodiadau Delwedd y Cwrs, dewiswch Clirio'r Ddelwedd i dynnu'r ddelwedd a uwchlwythwyd a defnyddio'r gosodiadau diofyn eto.