Neges wall
- Notice: Undefined variable: token in bb_coveo_search_ui_block_page_attachments() (line 53 of modules/custom/bb_widgets/bb_coveo_search_ui/bb_coveo_search_ui_block.module).
- Warning: array_flip(): Can only flip STRING and INTEGER values! in Drupal\Core\Entity\EntityStorageBase->loadMultiple() (line 312 of core/lib/Drupal/Core/Entity/EntityStorageBase.php).
Gosodiadau Personol
Golygu'ch gwybodaeth a dewisiadau
Eich proffil yw'r lle i olygu’r wybodaeth sy'n gysylltiedig â'ch persona. Mae'ch proffil yn ymddangos gydag ychydig o wybodaeth, a ni allwch ddileu'ch proffil. Eich sefydliad sy'n penderfynu beth gallwch ei bersonoli.
- Yn y rhestr lle mae'ch enw yn ymddangos, dewiswch eich enw i gael mynediad at eich proffil.
- Pwyntiwch at fanylyn megis Enw Llawn a dewiswch yr eicon pensil.
- Yn y panel, gwnewch newidiadau.
- Dewiswch Cadw pan fyddwch wedi gorffen.
Dewis eich rhagenwau
Pan fydd modd golygu rhagenwau, gallwch ddewis gwerthoedd eich rhagenwau yn y dudalen proffil, drwy glicio ar eich enw eich hun yn y ddewislen Llywio Sylfaenol. Os yw gwerthoedd rhagenwau yn bresennol, gallwch glicio arnynt i'w golygu, fel arall, bydd hysbysiad i Ychwanegu rhagenwau yn ymddangos.
I ychwanegu rhagenwau, dewiswch y maes rhagenw. Gallwch ddewis o'r gwymplen neu ddarparu elfen chwilio a hidlo'r prawf. Gallwch ychwanegu mwy nag un gwerth. Cynhelir y drefn dewis yn y dangosydd i ddefnyddwyr eraill, er mwyn i chi eu blaenoriaethu yn ôl eich dewis. Os yw'r gweinyddwr wedi diffinio opsiynau ar gyfer rhagenwau mewn mwy nag un iaith, gallwch ychwanegu'r rhagenwau rydych yn eu defnyddio yn yr ieithoedd rydych yn eu siarad. Gallwch hefyd dynnu unrhyw ragenwau a ddewiswyd.
Os nad ydych yn gweld opsiynau ar gyfer y rhagenwau gorau i chi, gallwch gyflwyno cais amdanynt os yw'ch sefydliad yn caniatáu gwneud hynny. Anfonir ceisiadau at y gweinyddwr i gael eu hadolygu a'u cymeradwyo.
Gall defnyddwyr eraill weld eich rhagenwau. Yn eich cyrsiau, byddant yn cael eu dangos mewn sawl lleoliad yn yr offer rhyngweithiol, gweithgareddau grŵp a rhestri o enwau. Os nad ydych eisiau i bobl eraill weld eich rhagenwau, dylech dynnu eich rhagenwau.
Lleoliadau dangos rhagenwau yn y Wedd Cwrs Ultra:
Adran | Lleoliad |
---|---|
Asesiadau Grŵp |
Gall defnyddiwr weld rhagenwau aelodau grŵp yn y panel trosolwg |
Adolygiad gan Gyfoedion | Gall ddefnyddwyr sy'n gallu gweld enwau adolygwyr cyfoedion weld eu rhagenwau uwchben eu hadborth wrth weld ymgais myfyriwr |
Cofrestr y Cwrs | |
Rhestr | Gall defnyddwyr weld rhagenwau defnyddwyr eraill yng ngwedd cofrestr y cwrs |
Rheoli Defnyddwyr |
Gall defnyddiwr weld rhagenwau defnyddwyr wrth chwilio am ddefnyddwyr i'w cofrestru yn y cwrs y gall defnyddiwr ei weld |
Offer Cyfathrebu | |
Trafodaethau | Gall defnyddiwr weld rhagenwau defnyddwyr eraill gyda'u hymatebion |
Negeseuon |
Gall defnyddwyr weld rhagenwau defnyddwyr eraill wrth chwilio am dderbynyddion neges |
Llyfr Graddau |
Gall hyfforddwyr a graddwyr weld rhagenwau defnyddwyr yn y golwg grid |
Grwpiau |
Gall defnyddiwr weld rhagenwau defnyddwyr mewn grŵp |
Proffil Defnyddiwr |
Gall defnyddiwr weld eu rhagenwau eu hunain yn eu tudalen proffil |
Newid eich cyfrinair
Gallwch newid eich cyfrinair gan ddefnyddio'r ddolen Wedi anghofio eich cyfrinair? ar y dudalen mewngofnodi. Os ydych eisoes wedi mewngofnodi, allgofnodwch i gael mynediad at y dudalen.
Teipiwch eich enw cyntaf, cyfenw ac enw defnyddiwr. Mae angen cael cyfeiriad e-bost gweithredol yn gysylltiedig â'ch cyfrif i dderbyn cyfarwyddiadau. Neu, teipiwch eich enw cyntaf, cyfenw a chyfeiriad e-bost.
Ar ôl i chi gyflwyno'ch gwybodaeth, gallwch greu cyfrinair newydd yn seiliedig ar y cyfarwyddiadau a dderbyniwch mewn e-bost. Mae'ch cyfrinair cyfredol yn parhau'n weithredol nes i chi ei newid.
Gallwch hefyd newid eich cyfrinair o'ch tudalen Proffil. Ewch i'ch proffil a dewiswch Newid Cyfrinair. Ar y panel Newid Cyfrinair, teipiwch eich hen gyfrinair a'ch cyfrinair newydd. Dewiswch Cadw pan rydych wedi gorffen.
Os ydych yn newid eich cyfrinair system, ni fydd yn effeithio unrhyw gyfrifon allanol, megis Google, yr ydych yn eu defnyddio i fewngofnodi i Blackboard Learn.