Neges wall

  • Notice: Undefined variable: token in bb_coveo_search_ui_block_page_attachments() (line 53 of modules/custom/bb_widgets/bb_coveo_search_ui/bb_coveo_search_ui_block.module).
  • Warning: array_flip(): Can only flip STRING and INTEGER values! in Drupal\Core\Entity\EntityStorageBase->loadMultiple() (line 312 of core/lib/Drupal/Core/Entity/EntityStorageBase.php).

Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael yn y Wedd Cwrs Gwreiddiol. Mae'r llyfr graddau ar gael i hyfforddwyr ar bob adeg yng Ngwedd Cwrs Ultra.

Defnyddio sgemâu graddio

Pan fyddwch yn graddio eitem, ymddengys sgôr rhifol fel y radd yn ddiofyn. Ymddengys graddau ar y dudalen Graddau, yn y tab Llyfr Graddau neu'r tab Graddau ym mhob cwrs, gyda'r eitemau a raddir ar gyfer myfyrwyr, megis aseiniadau a phrofion. Ewch i Gosodiadau'r Llyfr Graddau i wneud newidiadau i'r sgema graddio diofyn. 

Mae sgema'r cyfrifiad yn dangos graddau fel pwyntiau, llythrennau (A, B, C), neu ganran gyda'r sgema graddio rydych yn ei ddewis ar gyfer pob eitem a raddir. Mae'r sgema'n cymryd y pwyntiau a sgoriwyd ar gyfer eitem ac yn eu cymharu â chyfanswm o bwyntiau posibl yr eitem er mwyn cael canran. Mae'r ganran hon wedi'i mapio i amrediad o sgorau ac yn dangos gradd, megis llythyren.

Yn y Wedd Cwrs Ultra, mae gan bob cwrs un sgema graddio diofyn. Ni allwch greu sgemâu newydd ar yr adeg hon.

Example of different grading schemas: a gradable item with numerical score and another one with letter grading schema.

Enghraifft:

Ar gyfer y radd cyfanswm, sgôr rhif crai myfyriwr yw 88 allan o 100 pwynt posibl. Mewn sgema graddio lle mae canran o 87 i lai na 90 yn cyfateb i B+, bydd sgôr myfyriwr o 88 yn arwain at B+.

Ar yr adeg hon, heb ystyried yr amrediad o werthoedd y gallwch ei ddefnyddio yn eich sgema, nid yw lliwiau'r pils gradd a'r canrannau cyfatebol yn newid o'r cynllun lliwiau Ultra. Ymddengys eich gradd gywir, ond mae'r lliw yn cyfateb i'r cynllun lliwiau Ultra. Fodd bynnag, gall eich sefydliad analluogi’r sgema lliwiau ar gyfer pob cwrs. Ewch i'r pwnc Aseinio Graddau i ddysgu rhagor.

Agor y sgema graddio

O adran y Llyfr Graddau mewn cwrs, gallwch wneud newidiadau i'r sgema graddio diofyn. Dewiswch yr eicon Gosodiadau i agor y panel Gosodiadau'r Llyfr Graddau. Dewiswch yr opsiwn Sgema Graddio Presennol i weld y sgema gweithredol ar gyfer y cwrs, megis Llythyren. Diffinnir enw a gwerthoedd y sgema diofyn gan y gweinyddwr. Ni allwch greu sgemâu graddio newydd ar yr adeg hon.

Os wnewch newidiadau, bydd y newidiadau yn effeithio ar y cwrs rydych ynddo yn unig..

Os yw eich sefydliad yn gwneud newidiadau i'r sgema graddio diofyn, ni chaiff y newidiadau eu hadlewyrchu yn eich cwrs. Bydd y sgema a olygwyd yn effeithio ar gyrsiau newydd a grëwyd ar ôl y newidiad yn unig.

Gradebook settings panel showing your current letter grading schema, and its corresponding percentage grade range.

Gallwch ail-enwi'r sgema yn eich cwrs. Bydd newidiad yr enw yn effeithio ar y cwrs rydych ynddo yn unig. Pwyntiwch at y teitl i agor yr eicon golygu. Mae cyfyngiad o 64 nod ar deitlau sgemâu. Ymddengys newidiad yr enw yn y ddewislen Graddio gan ddefnyddio pan fyddwch yn creu eitemau a raddiwyd ac yn eitemau a raddiwyd presennol.

You can select Department Letter Grades, points or percentage for your grade using.

Gallwch hefyd olygu, dileu, neu ychwanegu amrediad graddau. Dewiswch werth i'w olygu. Dechreuwch o'r gwaelod a golygwch y gwerthoedd ar gyfer gwerth y radd olaf a symudwch i'r rhes nesaf. Gallwch wneud y gwerth uchaf yn uwch na 100%. Er enghraifft, os fydd myfyriwr yn cael 100% neu fwy, gallwch neilltuo A+ i'r sgoriau hynny.

I ddileu rhes, pwyntiwch at y rhes ac ymddengys yr eicon dileu. Mae rhaid i o leiaf ddwy res aros er mwyn i'r sgema fod yn ddilys, ac ni allwch ddileu'r rhes olaf. I fewnosod rhes, dewiswch yr arwydd plws (+) sy'n ymddangos dan bob rhes, ac eithrio'r rhes gyntaf.

Dewiswch Cadw pan rydych wedi gorffen. Ni allwch adael y panel nes eich bod wedi dewis Cadw neu Canslo. Wedyn, dewiswch yr X i ddychwelyd i'r panel Gosodiadau'r Llyfr Graddau.

Pan fyddwch yn ychwanegu neu ddileu rhesi neu olygu gwerthoedd yn y sgema, bydd y gwerthoedd a rhesi sy'n weddill yn addasu pan fyddwch yn cadw'r newidiadau. Mae'r system yn sicrhau nid oes unrhyw fylchau rhifol yn bodoli yn y sgema. Mae'r system hefyd yn dangos neges gwall pan fyddwch yn teipio rhif annilys.

Rhagor am golofnau gradd a'r radd gyffredinol