Neges wall

  • Notice: Undefined variable: token in bb_coveo_search_ui_block_page_attachments() (line 53 of modules/custom/bb_widgets/bb_coveo_search_ui/bb_coveo_search_ui_block.module).
  • Warning: array_flip(): Can only flip STRING and INTEGER values! in Drupal\Core\Entity\EntityStorageBase->loadMultiple() (line 312 of core/lib/Drupal/Core/Entity/EntityStorageBase.php).

Tudalen Negeseuon

Mewn cwrs, gallwch gyrchu’r dudalen Negeseuon ar y bar llywio. Bydd pob un o'ch negeseuon ac ymatebion cwrs yn ymddangos. Gallwch fwrw golwg trwy'r rhestr yn hawdd ac agor neges i ddarllen yr holl ymatebion.

Bydd eich negeseuon sydd heb eu darllen yn ymddangos yn gyntaf yn y rhestr. Mae pob neges yn dangos llun proffil y creawdwr. O dan enw'r creawdwr, gallwch weld sawl cyfranogwr sydd wedi’i gynnwys neu os yw’r neges ar gyfer y dosbarth cyfan.

  1. Edrych yn hwylus ar beth sy’n newydd. Mae cyfrif negeseuon yn ymddangos uwchben y rhestr. Bydd ymatebion newydd yn ymddangos gyda ffont trwm.
  2. Anfon neges. Dewiswch eicon Neges Newydd i anfon neges. Anfonwch i un person, rhagor nag un person neu'r dosbarth cyfan.

    Os oes gennych lawer o negeseuon, dewiswch nifer y negeseuon rydych eisiau eu gweld fesul tudalen i gulhau'ch ffocws.

  3. Dileu neges. Defnyddiwch yr eicon Dileu i ddileu neges. Os daw rhagor o ymatebion, byddwch yn ei cael. Ni allwch olygu neu ddileu ymatebion unigol mewn neges.
  4. Llywio i neges arall. Mae negeseuon yn agor mewn panel gyda phob ymateb. Defnyddiwch yr eiconau Gweld Negeseuon Blaenorol a Neges Nesaf ar y top i weld y neges flaenorol neu nesaf yn y rhestr.

Pan grëwch ymateb i neges, dewiswch yr eiconYchwanegu Cyfranogwyr oni bai fod y neges wedi cael ei hanfon at y dosbarth cyfan. Mae'r derbynyddion gwreiddiol yn gweld nodyn yn y neges nesaf eich bod wedi ychwanegu pobl newydd neu'r dosbarth cyfan. Mae'r derbynyddion newydd yn gweld y neges o'r pwynt y cawsant eu hychwanegu.


Anfon neges

Os byddwch yn anfon neges at fyfyrwyr cyn i'r cwrs fod ar gael iddynt, caiff y neges ei hanfon i'w cyfeiriad e-bost cysylltiedig.

Pan ddewiswch yr eicon Neges Newydd ar y dudalen Negeseuon, bydd y panel Neges Newydd yn agor.

Dechreuwch deipio i ychwanegu derbynyddion. Wrth i chi deipio, bydd enwau'r derbynyddion sy'n cyd-fynd yn ymddangos mewn dewislen er mwyn i chi allu eu dewis yn hawdd. Gallwch barhau i ychwanegu cynifer o enwau ag y mynnwch neu anfon i'r dosbarth cyfan.

Arweiniwch gyda’r wybodaeth bwysicaf. Nid oes gan negeseuon deitlau. Mae angen i dderbynyddion ddibynnu ar ran cyntaf eich neges wrth iddynt ddewis beth i'w ddarllen. Defnyddiwch y swyddogaethau yn y golygydd i fformatio'ch testun.

I ddefnyddio'ch bysellfwrdd i neidio i far offer y golygydd, pwyswch ALT + F10. Ar Mac, pwyswch Fn + ALT + F10. Defnyddiwch fysellau'r saethau i ddewis opsiwn, megis rhestr â rhifau.

Anfonwch gopi e-bost. Gallwch anfon copi o neges gwrs fel neges e-bost. Efallai bydd myfyrwyr yn gweld, darllen a gweithredu ar gyhoeddiadau pwysig a negeseuon cwrs pan dderbyniant gopi yn eu mewnflychau. Bydd copïau e-bost yn cael eu danfon dim ond os oes gan dderbynyddion gyfeiriad e-bost dilys yn eu proffil ar Blackboard Learn. Pan ddewiswch yr opsiwn hwn, mae holl dderbynwyr y neges yn derbyn copi e-bost.

Bydd derbynyddion yn gallu gweld eich neges ym mewnflwch eu cyfrifon e-bost, ond ni fyddant yn gallu anfon e-bost i ymateb.

Caniatáu neu wrthod atebion. Gallwch ddewis i beidio â chaniatáu atebion ar gyfer negeseuon a grëwch. Os ydych chi’n dewis anfon neges at y dosbarth cyfan, nid oes neb yn cael ateb yn ddiofyn.

Gall eich sefydliad ddewis peidio â chaniatáu i fyfyrwyr ymateb i neu greu negeseuon yn eu cyrsiau. Ni allwch droi'r gosodiad hwn ymlaen a’i ddiffodd yn eich cyrsiau unigol. Pan fydd y gosodiad hwn wedi’i droi ymlaen, gall myfyrwyr ond ddarllen negeseuon a anfonir atynt gan rolau eraill, megis hyfforddwyr a chynorthwywyr addysgu. Ni fydd modd i fyfyrwyr flaenyrru negeseuon maent yn eu derbyn.

Pan all myfyrwyr ond ddarllen negeseuon cwrs, byddwch yn derbyn hysbysiad wrth greu neges. Mae’r blwch ticio Caniatáu atebion i'r neges hon yn berthnasol i’r rolau yn y cwrs sydd â chaniatâd i ateb i a chreu negeseuon, megis hyfforddwyr eraill a chynorthwywyr addysgu.


Cyfathrebu o’r llyfr graddau

O’r rhestr myfyrwyr, gallwch anfon neges at unrhyw un sy’n gysylltiedig â’ch cwrs.

Select the three dot options menu at the right end of a student row. Select the Message Student option. The Message panel will open at the right side of the screen.

Dewiswch y ddewislen tri dot ar ochr dde rhes myfyriwr. Dewiswch yr opsiwn Anfon neges at fyfyriwr. Bydd y panel Neges yn agor ar ochr dde'r sgrin.

Mae negeseuon a anfonwch o’r wedd rhestr myfyrwyr hefyd yn ymddangos ar y dudalen Negeseuon.