Neges wall
- Notice: Undefined variable: token in bb_coveo_search_ui_block_page_attachments() (line 53 of modules/custom/bb_widgets/bb_coveo_search_ui/bb_coveo_search_ui_block.module).
- Warning: array_flip(): Can only flip STRING and INTEGER values! in Drupal\Core\Entity\EntityStorageBase->loadMultiple() (line 312 of core/lib/Drupal/Core/Entity/EntityStorageBase.php).
Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.
Ynglŷn â chyraeddiadau
Gall hyfforddwyr greu cyfleoedd i chi ennill cydnabyddiaeth ar gyfer eich cyraeddiadau. Gelwir y cyfleoedd hyn yn gyflawniadau. Pan fyddwch yn eu cwblhau, rydych yn ennill gwobr ar ffurf bathodyn a thystysgrif.
Gallwch weld pa wobrau rydych wedi'u hennill a beth sydd angen ei gwneud er mwyn derbyn mwy o wobrau. Cewch flas ar y dilyniant dysgu tuag at alluoedd a ddiffinnir. Efallai byddwch yn gallu cyhoeddi bathodynnau ar Badge Backpack a mynd â thystiolaeth o'ch dysgu â chi y tu allan i Blackboard Learn.
Hyfforddwyr sy'n dewis sut rydych yn cael mynediad at y cyraeddiadau hyn:
- Tudalen Offer Cwrs
- Dolen offer ar ddewislen y cwrs
- Dolen mewn ardal gynnwys
Tudalen Fy Nghyraeddiadau
Ar dudalen Fy Nghyraeddiadau, gallwch weld y cyraeddiadau a enillwyd gennych ac unrhyw gyraeddiadau heb eu hennill sy'n weladwy. Ar dop y dudalen, gallwch hidlo'r rhestr o gyraeddiadau.
Os ydych wedi ennill cyraeddiadau newydd ers y tro diwethaf i chi ymweld â thudalen Fy Nghyraeddiadau, bydd hysbysiad yn ymddangos ar dop y dudalen. Pan fyddwch yn derbyn gwobrau cyrhaeddiad, byddwch yn cael hysbysiad ar unwaith ar dop y dudalen rydych yn ei darllen ar y pryd. Mae myfyrwyr hefyd yn gallu gweld hysbysiadau yn yr ardaloedd hyn:
- Ar y tudalennau Hysbysiadau
- Gydag eitem y cyrhaeddiad yn y cwrs
Mae tudalen Gweld y Gofynion cyrhaeddiad yn dangos y meini prawf sydd angen eu bodloni er mwyn ennill y wobr a'ch cynnydd cyfredol tuag at ei gyflawni. O fewn cyrhaeddiad, gallwch weld rhagor o wybodaeth, megis manylion y wobr.
Gallwch weld ac argraffu'r tystysgrifau a ddyfernir i chi gan eich hyfforddwr. Gyda'r bathodynnau yr enillwch, gallwch weld a chyhoeddi'r bathodynnau yn eich Badge Backpacks, os yw'ch hyfforddwr a'ch sefydliad yn caniatáu i chi wneud hynny. I gyhoeddi bathodynnau, mae rhaid i gyfeiriad e-bost y myfyriwr a ddefnyddir ar gyfer eich Badge Backpack gyd-fynd â'r un a ddefnyddir ar gyfer Blackboard Learn.
Os yw hyfforddwr yn dewis dileu cyrhaeddiad yr ydych wedi ennill gwobr ar ei gyfer, bydd y wobr gysylltiedig hefyd yn cael ei dileu.