Neges wall
- Notice: Undefined variable: token in bb_coveo_search_ui_block_page_attachments() (line 53 of modules/custom/bb_widgets/bb_coveo_search_ui/bb_coveo_search_ui_block.module).
- Warning: array_flip(): Can only flip STRING and INTEGER values! in Drupal\Core\Entity\EntityStorageBase->loadMultiple() (line 312 of core/lib/Drupal/Core/Entity/EntityStorageBase.php).
Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.
Yn seiliedig ar sut mae'ch sefydliad wedi gosod Qwickly, mae'n bosib na fod yr holl nodweddion ar gael.
Darn o offer yn Blackboard Learn yw Qwickly sy'n eich caniatáu i gyflwyno aseiniadau neu ychwanegu ffeiliau at eich cwrs o blatfformau storio ar y cwmwl. Mae'r platfformau hyn yn cynnwys Google Docs, Dropbox, a OneDrive. Gallwch ddefnyddio Qwickly mewn modiwl ar dab Fy Sefydliad neu o fewn eich cyrsiau.
O'r modiwl, gallwch wneud y tasgau hyn:
- E-bostio hyfforddwyr
- Cyflwyno ffeiliau aseiniadau o'ch cyfrifiadur neu'r cwmwl
- E-bostio aelodau grŵp
Mewn cwrs, gallwch ddefnyddio Qwickly i gyflwyno aseiniadau a defnyddio'r botwm Ychwanegu Cynnwys yn y golygydd i ychwanegu cyfuniadau a chynnwys arall o'r cwmwl.
Modiwl Qwickly
O fodiwl Qwickly, gallwch gwblhau nifer o swyddogaethau.
Am diwtorial fideo o'r cyfarwyddiadau hyn, ewch i'r Modiwl Profiad Myfyrwyr.
E-bostio'ch hyfforddwr
Ar yr hafan, dewiswch y ddolen i e-bostio un neu ragor o'ch hyfforddwyr. Gallwch hefyd anfon ffeil o'ch cyfrifiadur neu o blatfform storio ar y cwmwl.
Anfon e-bost at grŵp
Gyda swyddogaeth Anfon E-bost Grŵp, gallwch anfon e-bost at unrhyw grŵp rydych yn aelod ohono yn eich cyrsiau.
Cyflwyno aseiniad
Gyda swyddogaeth Cyflwyno Aseiniad, gallwch gyflwyno ffeiliau o'ch cyfrifiadur neu o blatfform storio ar y cwmwl. Ar ôl i chi gyflwyno'ch aseiniad, bydd yn diflannu o'r rhestr yn Cyflwyno Aseiniadau. Gallwch weld aseiniadau yn ôl cwrs neu ddyddiad dyledus, os yw'r hyfforddwr wedi pennu un.
Defnyddio Qwickly mewn cwrs
Am diwtorial fideo o'r cyfarwyddiadau hyn, ewch i Profiad Myfyrwyr o Gwrs.
Gallwch ddefnyddio'r modiwl i gyflwyno aseiniadau. Mae sut rydych yn cyflwyno aseiniad o fewn cwrs yn dibynnu ar y math o aseiniad a grëwyd gan eich hyfforddwr.
Caiff aseiniad cwmwl ei greu gyda Qwickly. Yn eich cwrs, mae'r aseiniadau hyn yn ymddangos gydag eicon cwmwl. Pan fyddwch yn agor aseiniad cwmwl, byddwch yn gweld "Aseiniad Cwmwl Qwickly" ar dop y dudalen.
Mae aseiniad brodorol yn aseiniad normal yn Blackboard Learn. Mae'n bosib bydd eich hyfforddwr yn mewnosod dolen i ffeil ar y cwmwl, ond pan fyddwch yn agor aseiniad brodorol, fe welwch y dudalen Uwchlwytho Aseiniad..
Cyflwyno aseiniad cwmwl
- Dewiswch ddolen yr aseiniad yn ardal cynnwys y cwrs.
- Dewiswch le mae'ch ffeil wedi'i leoli, megis Google Docs, neu borwch am y ffeil ar eich cyfrifiadur.
- Atodwch a chyflwynwch y ffeil er mwyn cwblhau cyflwyno'ch aseiniad.
Cyflwyno aseiniad brodorol Blackboard Learn
Os byddwch yn cyflwyno aseiniad brodorol Blackboard Learn o'r tu mewn i'r cwrs, gallwch ychwanegu dolenni i ddogfen yn y cwmwl â'r botwm Ychwanegu Cynnwys yn y golygydd
- Yn y golygydd, agorwch yr eitem Ychwanegu Cynnwys i ddangos y ddewislen a gweld yr holl opsiynau.
- Dewiswch Mewnosod o Wasanaeth y Cwmwl.
- Yn y ffenestr a fydd yn agor, dewiswch le mae'r ffeil wedi'i storio a dewch o hyd i'r ffeil.
- Teipiwch destun ar gyfer y ddolen i'r ffeil.
- Dewiswch Mewngludo i fewnosod y ddolen yn y golygydd.
Mae eich ffeil yn ymddangos fel dolen yn yr ardal cyflwyno aseiniadau.
Ychwanegu cynnwys cwmwl mewn cwrs
Gallwch ddefnyddio'r un dull i ychwanegu dogfennau cwmwl i ardaloedd eraill o'ch cwrs sy'n defnyddio'r golygydd, megis trafodaethau.
- Ewch i'r maes cwrs lle rydych eisiau ychwanegu ffeil.
- Yn y golygydd, agorwch fotwm yr eitem Ychwanegu Cynnwys i agor y ddewislen a gweld yr holl opsiynau.
- Dewiswch Mewngludo o Wasanaeth y Cwmwl.
- Yn y ffenestr a fydd yn agor, dewiswch le mae'r ffeil wedi'i storio a dewch o hyd i'r ffeil.
- Teipiwch destun ar gyfer y ddolen i'r ffeil.
- Dewiswch Mewngludo i fewnosod y ddolen yn y golygydd.