Neges wall
- Notice: Undefined variable: token in bb_coveo_search_ui_block_page_attachments() (line 53 of modules/custom/bb_widgets/bb_coveo_search_ui/bb_coveo_search_ui_block.module).
- Warning: array_flip(): Can only flip STRING and INTEGER values! in Drupal\Core\Entity\EntityStorageBase->loadMultiple() (line 312 of core/lib/Drupal/Core/Entity/EntityStorageBase.php).
Beth yw'r Casgliad o Gynnwys?
Yn y Casgliad o Gynnwys, gallwch storio, rhannu a chyhoeddi cynnwys digidol mewn ffolderi personol, cwrs a sefydliadol. Pan rydych eisiau golygu cynnwys, rydych yn gwneud hynny unwaith a bydd y diweddariadau'n ymddangos trwy gydol eich gwaith. Gallwch rannu cynnwys trwy roi caniatâd i eraill ac anfon pasys er mwyn iddynt allu cael mynediad ato.
Mae'ch rôl yn pennu pa offer a llifau gwaith y mae gennych fynediad atynt.
Sut ydw i'n cael mynediad at y Casgliad o Gynnwys?
Ar ôl i chi fewngofnodi i Blackboard Learn, dewiswch dab y Casgliad o Gynnwys ym mhennyn y dudalen.
Gall eich sefydliad gyfyngu ar fynediad at y Casgliad o Gynnwys neu ailenwi'r tab. Os ydych yn cael trafferth yn dod o hyd i'r Casgliad o Gynnwys, cysylltwch â'ch sefydliad.
Dewislen y Casgliad o Gynnwys
Gallwch gael mynediad at eitemau yn y Casgliad o Gynnwys o'r ddewislen. Gallwch weld dewislen y Casgliad o Gynnwys o'r Gwedd Llwybrau Byr neu'r Gwedd Ffolderi. Yn y lle cyntaf, bydd gwedd y llwybr byr yn ymddangos yn ôl rhagosodiad. Dewiswch eicon yn y gornel dde ar dop y dudalen i newid eich gwedd.
Mae'r system yn cadw'r wedd dewiswch chi ac yn dychwelyd i'r wedd honno bob tro i chi gael mynediad at y Casgliad o Gynnwys. Pwyswch a llusgo ochr dde'r ddewislen i newid y maint.
Mae'r wedd llwybrau byr yn dangos eiconau ar gyfer pob grŵp o gynnwys, megis Fy Nghynnwys a Cynnwys y Llyfrgell. Mae'r wedd ffolderi'n dangos cynnwys mewn strwythur ffolderi o fewn tabl. Gallwch ehangu pob ffolder i weld yr is-ffolderi.
Gall eich sefydliad ddiystyru'ch gallu i newid gweddau.
Sut caiff y cynnwys ei drefnu?
Mae'r Casgliad o Gynnwys yn cynnwys ffeiliau a ffolderi wedi'u trefnu ar gyfer defnyddwyr, cyrsiau a'r sefydliad. Y tri grŵp diofyn o gynnwys yw Fy Nghynnwys, Cynnwys y Cwrs, a Cynnwys y Sefydliad. Mae pob grŵp yn dangos ffolderi a ffeiliau os oes rhai ar gael i chi. Gallwch gael mynediad at bob grŵp trwy ddewislen y Casgliad o Gynnwys.
Defnyddir Fy Nghynnwys i storio ffolderi a ffeiliau y cyfeirir atynt fel eitemau at eich defnydd personol. Defnyddiwch y swyddogaeth chwilio i ganfod a gweld eitemau cynnwys neu ffolderi y'u rhennir â chi. Ychwanegwch nodau tudalen i'r lleoliadau hyn er mwyn i chi allu dod o hyd iddynt yn hawdd yn y dyfodol.
Defnyddir Cynnwys y Cwrs i storio ffolderi a ffeiliau ar gyfer pob cwrs. Mae ffolder yn ymddangos ar gyfer pob cwrs y mae gennych fynediad iddo. Mae hyfforddwyr yn gweld ffolderi ar gyfer y cyrsiau y maent yn eu haddysgu. Mae'n rhaid i hyfforddwyr ganiatáu mynediad i fyfyrwyr cyn bod ffolderi cwrs ar gael iddynt.
Defnyddir Cynnwys y Sefydliad i storio ffolderi a ffeiliau ar gyfer gwasanaethau addysgol a gweinyddol nad sy'n uniongyrchol gysylltiedig â chwrs. Gallwch hefyd gael mynediad at eitemau'r llyfrgell. Gall llyfrgell y sefydliad ddefnyddio'r ardal hon i bostio e-Gronfeydd, llawysgrifau electronig ac adnoddau eraill.
Gweld cynnwys
Mae'r ffrâm gynnwys yn dangos yr eitemau a'r llifau gwaith a gallwch ddewis o'u plith yn y ddewislen. Dewiswch deitl colofn i drefnu'r eitemau a'r ffolderi.
Mae'r bar cyfeiriadaeth yn ymddangos ar frig y ffrâm gynnwys. Defnyddiwch y llwybr hierarchaidd yma i ddangos lle rydych chi a sut gyrhaeddoch chi yno. Dewiswch eitem ar y bar i fynd i'r ffolder honno. Mae cwymplen y bar llywio'n gweithredu fel gwahanwyr ffolderi ac yn dangos rhestr o opsiynau ar gyfer y ffolder hwnnw.
Cael mynediad at bortffolios ac offer
Defnyddiwch ddewislen Neidio i i gael mynediad at bortffolios, gwrthrychau dysgu ac offer eraill yn y Casgliad o Gynnwys. Gallwch gwympo ac ehangu pob dewislen. Dewiswch bennawd yn y ddewislen i agor darn o offer yn y ffrâm gynnwys.
Gall eich sefydliad gyfyngu mynediad i ddarnau o offer, megis portffolios.
Chwilio yn y Casgliad o Gynnwys
Gallwch chwilio er mwyn dod o hyd i'r holl ffeiliau a ffolderi mae pobl eraill wedi'u rhannu â chi. Ar ôl chwilio, yr unig eitemau y'u dychwelir yw'r sawl sydd gennych ganiatâd i'w gweld. Os roddir caniatâd ar gyfer ffolder o fewn tabl ac nid y ffolder lefel uchaf, gallwch chwilio am y ffolder a rhoi nod tudalen arno.
Mae pob chwiliad yn sensitif i faint llythrennau.
Chwiliad Sylfaenol: Gallwch chwilio am dermau o fewn metaddata ac enwau ffeiliau neu ffolderi.
Chwiliad Manwl: Mae gennych fwy o opsiynau ar gyfer eich chwiliad, megis enw defnyddiwr, dyddiadau, maint ffeil a metaddata mwy penodol.
Chwilio am Bortffolio: Gallwch chwilio portffolios a grëwyd yn Blackboard Learn yn unig. Mae eich chwiliad yn dangos portffolios a osodwyd i ar gael neu a rannwyd gyda chi. Gall eich sefydliad gyfyngu ar eich mynediad at offer Portffolios.
Chwiliadau a Gedwir: Ar ôl i chi redeg chwiliad, gallwch ei gadw. Er enghraifft, gallwch chwilio am erthygl bioleg a rannwyd gan eich hyfforddwr. Gallwch roi nod tudalen ar chwiliad er mwyn i chi allu dod o hyd i'r erthygl yn hawdd eto.
Gosod eich hafan bersonol
Gallwch ddewis pwynt mynediad i mewn i'r Casgliad o Gynnwys. Os ydych yn mynd i'r un cwrs bob tro i chi agor y tab, gosodwch yr hafan i'r pwynt hwnnw yn ffolder y cwrs.
Gallwch osod unrhyw gwrs neu leoliad â nod tudalen fel eich pwynt mynediad.
- Ewch i'r Casgliad o Gynnwys.
- Yn newislen Neidio i, dewiswch Gosodiadau Personol yn yr adran Offer.
- Ar dudalen Gosodiadau Personol, dewiswch opsiwn Lleoliad Personol.
- Porwch am leoliad.
- Dewiswch Cyflwyno.
Creu nod tudalen
Gallwch fynd yn uniongyrchol i ffolder penodol yn y Casgliad o Gynnwys. Dewiswch Mynd i Leoliad a darparwch y llwybr i agor ffolder a rhoi nod tudalen ar yr un pryd.
- Yn newislen Neidio i, dewiswch Mynd i Leoliad yn yr adran Offer.
- Ar dudalen Mynd i Leoliad, Porwch am leoliad.
- Teipiwch Enw i greu nod tudalen.
- Dewiswch Cyflwyno.
Mae Rhoi Nod Tudalen ar Eitemau hefyd yn ymddangos yn y bar gweithredu.
Gallwch gael mynediad at eich nodau tudalen yn newislen Neidio i yn yr adran Offer. Ar dudalen Nodau Tudalen, gallwch greu ffolderi i drefnu'ch nodau tudalen. Os nad ydych yn gallu dewis nod tudalen, mae'n bosib na fod y cynnwys yn bodoli bellach.
Gallwch hefyd gael mynediad at nodau tudalen yn eich dewislen i ddefnyddwyr. Mae'r ddewislen i ddefnyddwyr nesaf at eich enw ym mhennyn y dudalen.
Mwy ar gael mynediad at nodau tudalen yn y ddewislen i ddefnyddwyr