Sut ydw i’n anfon negeseuon?

Gallwch chi a'ch hyfforddwyr anfon negeseuon at eich gilydd, at fwy nag un person neu at ddosbarth cyfan. Mae gweithgarwch negeseuon yn aros o fewn y system.

  1. Y tu mewn i gwrs
    • Ar y dudalen Negeseuon
      • Y tu mewn i gwrs, mae'r holl negeseuon ac ymatebion yn aros gyda'i gilydd ar y dudalen Negeseuon. Gallwch sganio'r rhestr yn hawdd ac ehangu neges i ddarllen yr holl ymatebion i weld pwy arall sy'n cymryd rhan. Dewiswch eicon Neges Newydd i anfon neges. Anfonwch i un person, rhagor nag un person neu'r dosbarth cyfan.
  2. O'r dudalen negeseuon cyffredinol
    • Dewiswch Negeseuon o'r rhestr ble mae'ch enw yn ymddangos i gael mynediad at y dudalen negeseuon cyffredinol.
    • Dewiswch yr arwydd plws ar gerdyn cwrs ar y dudalen Negeseuon i agor y panel Negeseuon Newydd.
    • Dechreuwch deipio i ychwanegu derbynyddion. Wrth i chi deipio, bydd enwau'r derbynyddion sy'n cyd-fynd yn ymddangos. Gallwch barhau i ychwanegu cynifer o enwau ag y mynnwch neu anfon i'r dosbarth cyfan.
    • Dechreuwch gyda'r wybodaeth bwysicaf! Mae 100 nod cyntaf neges yn ymddangos yn y rhestr. Nid oes gan negeseuon deitlau, felly mae derbynyddion yn dibynnu ar ran cyntaf eich neges wrth iddynt ddewis beth i'w ddarllen. Gallwch fformatio'r testun â'r golygydd.

Sut ydw i’n derbyn negeseuon?

1. O'r dudalen negeseuon cyffredinol

Dewiswch Negeseuon o'r rhestr ble mae'ch enw yn ymddangos i gael mynediad at y dudalen negeseuon cyffredinol. Fe welwch yr holl negeseuon o bob un o'ch cyrsiau. Gallwch weld negeseuon o gyrsiau cyfredol, blaenorol a'r rhai sydd yn y dyfodol.

2. Y tu mewn i gwrs

Pan rydych y tu mewn i gwrs, gallwch weld ac anfon negeseuon ar gyfer y cwrs hwnnw yn unig.

  1. Edrych yn hwylus ar beth sy’n newydd. Mae cyfrif negeseuon yn ymddangos uwchben y rhestr. Bydd ymatebion newydd yn ymddangos gyda ffont trwm.
  2. Anfon neges. Os yw’ch sefydliad yn ei ganiatáu, dewiswch yr eicon Neges Newydd i anfon neges. Anfonwch i un person, rhagor nag un person neu'r dosbarth cyfan.

    Os oes gennych lawer o negeseuon, dewiswch nifer y negeseuon rydych eisiau eu gweld fesul tudalen i gulhau'ch ffocws.

  3. Dileu neges. Defnyddiwch yr eicon Dileu i ddileu neges. Os daw rhagor o ymatebion, byddwch yn ei cael. Ni allwch olygu neu ddileu ymatebion unigol mewn neges.
  4. Llywio i neges arall. Mae negeseuon yn agor mewn panel gyda phob ymateb. Defnyddiwch yr eiconau Gweld Negeseuon Blaenorol a Neges Nesaf ar y top i weld y neges flaenorol neu nesaf yn y rhestr.
  5. Ychwanegu rhagor o bobl. Os yw’ch sefydliad yn ei ganiatáu, pan fyddwch yn creu neu’n ymateb i neges, dewiswch yr eicon Ychwanegu Cyfranogwyr i ychwanegu pobl ychwanegol oni bai fod y neges wedi cael ei hanfon at y dosbarth cyfan. Mae'r derbynyddion gwreiddiol yn gweld nodyn yn y neges nesaf eich bod wedi ychwanegu pobl newydd neu'r dosbarth cyfan. Mae'r derbynyddion newydd yn gweld y neges o'r pwynt y cawsant eu hychwanegu.

Gall eich hyfforddwr ddewis anfon copi o neges cwrs i'ch mewnflwch e-byst. Dim ond pan mae gennych gyfeiriad e-bost dilys wedi'i restru yn eich proffil y byddwch yn derbyn copi o'r neges cwrs ar e-bost, felly sicrhewch eich bod yn diweddaru'ch proffil yn gyson!


Datrys problemau e-bost mewn cyrsiau

  • Sut ydw i'n gwneud fy nghyfeiriad e-bost yn weladwy? Nid yw'ch cyfeiriad e-bost yn weladwy oni bai eich bod yn dewis ei wneud yn weladwy i aelodau'r cwrs. I newid y gosodiad hwn, ewch i ddewislen Fy Blackboard > Gosodiadau > Gwybodaeth Bersonol > Gosod Opsiynau Preifatrwydd.
  • Allaf newid fy nghyfeiriad e-bost allanol? Gallwch newid y cyfeiriad e-bost a ddefnyddir yn eich cyrsiau. Ewch i ddewislen Fy Blackboard > Gosodiadau > Gwybodaeth Bersonol > Golygu Gwybodaeth Bersonol. Wedyn, teipiwch y cyfeiriad e-bost y byddai'n well gennych ei ddefnyddio a dewiswch Cyflwyno.
  • Pam na chafodd fy e-bost ei anfon?
    • NI fydd Blackboard Learn yn adnabod ffeiliau neu gyfeiriadau e-bost gyda bylchau neu gymeriadau arbennig, megis #, &, %, a $. Dylech ddefnyddio llythrennau a rhifau yn unig mewn enwau ffeiliau a chyfeiriadau.
    • Peidiwch ag anfon e-bost trwy Blackboard heb linell pwnc. Os yw'r llinell pwnc yn wag, mae'n bosib na fydd y neges yn cael ei hanfon yn gywir.