Archwilio’r dudalen Cyrsiau

O'r rhestr lle mae’ch enw yn ymddangos, gallwch weld rhestr o'ch cyrsiau.

Ar y dudalen Cyrsiau, gallwch gael mynediad at bob un o'ch cyrsiau. 

Eich sefydliad sy'n rheoli pa dudalen sy’n ymddangos ar ôl i chi fewngofnodi. Ar yr adeg hon, ni allwch guddio cardiau cyrsiau, ond gallwch ddefnyddio'r ddewislen hidlo i leihau'r hyn a welwch.

Gallwch weld y dudalen Cyrsiau naill ai fel rhestr neu rid. Mae pob cerdyn cwrs yn rhestru ID y cwrs, teitl y cwrs a’r hyfforddwr. Os oes mwy nag un hyfforddwr ar eich cwrs, dewiswch Hyfforddwyr Lluosog am restr. Dewiswch Rhagor o wybodaeth i weld y disgrifiad ac amserlen, os ydynt wedi’u hychwanegu.

Gallwch weld cyrsiau nad ydynt ar gael yn eich rhestr gyrsiau, ond ni allwch gael mynediad atynt. Bydd cyrsiau nad ydynt ar gael yn ymddangos gydag eicon clo.

Defnyddiwch y bar chwilio neu hidlydd ar frig y dudalen i fireinio’r hyn a welwch. Defnyddiwch y swyddogaeth chwilio i ddod o hyd i gyrsiau ar y dudalen bresennol.

Symudwch rhwng cyrsiau blaenorol, cyrsiau cyfredol a chyrsiau sydd ar ddod. Os oes gennych lawer o gyrsiau, gallwch hefyd ddewis y nifer sy’n dangos ar bob tudalen. Ar frig y rhestr, gwelwch ddewisydd tudalen i lywio trwy restrau hir.

Os ydych am gael mynediad at gwrs penodol yn aml, gallwch glicio ar yr eicon seren i ychwanegu’r cwrs at eich ffefrynnau. Bydd y cwrs yn ymddangos ar frig eich rhestr o gyrsiau. Nid oes angen i chi sgrolio bellach! Gallwch ddewis yr eicon seren unwaith eto i dynnu cwrs o’ch rhestr o ffefrynnau unwaith i chi beidio â’i ddefnyddio cymaint.

Ni allwch aildrefnu'r cyrsiau yn y rhestr. Caiff y cyrsiau eu rhestru yn nhrefn yr wyddor a'u grwpio yn ôl tymor, gyda’r cyrsiau mwyaf newydd yn gyntaf. Bydd eich ffefrynnau'n ymddangos ar frig y dudalen.

Sut mae tymhorau'n gweithio?

Cyfnodau penodol o amser yw tymhorau sydd â'r nod o helpu sefydliadau drefnu cyrsiau yn ôl y calendr academaidd. Efallai bydd eich sefydliad yn defnyddio tymhorau i rwpio cyrsiau a rheoli argaeledd mewn sympau.

Mae dyddiad dechrau a gorffen tymor yn rheoli lle mae cyrsiau perthnasol yn ymddangos ar y dudalen Cyrsiau:

  • Os yw cyfnod y tymor wedi dod i ben, bydd y cwrs yn ymddangos yn Cyrsiau Blaenorol gydag enw'r tymor fel teitl y dudalen. Ni fydd gennych fynediad at y cyrsiau hyn.
  • Os yw'r tymor yn dal i fynd, bydd y cwrs yn ymddangos yn Cyrsiau Cyfredol gydag enw'r tymor fel grŵp.
  • Os yw dyddiadau dechrau a gorffen y tymor yn y dyfodol, bydd y cwrs yn ymddangos yn Cyrsiau ar Ddod gydag enw'r tymor fel grŵp. Ni fydd gennych fynediad at y cyrsiau hyn.

Os nad yw'ch cwrs wedi'i gysylltu â thymor penodol neu os yw'n defnyddio dyddiadau dechrau a gorffen personol a'i bod yn weithredol ar hyn o bryd, bydd yn ymddangos yn grŵp Dyddiadau amrywiol ar dudalen Cyrsiau Presennol. Bydd cyrsiau nad ydynt yn digwydd yn ystod y tymor yn ymddangos ar y dudalen Cyrsiau Blaenorol pan fyddant yn dod i ben neu ar y dudalen Cyrsiau ar Ddod os ydynt yn dechrau yn y dyfodol.


Pori’r Catalog Cyrsiau

Gallwch ddefnyddio catalog y cwrs i bori’r cyrsiau sy’n cael eu cynnig yn eich sefydliad. Gallwch ddod o hyd i’r Catalog Cyrsiau ar y dudalen Cyrsiau.

Yn y catalog, gallwch chwilio am gyrsiau yn ôl y meysydd canlynol:

  • ID y Cwrs
  • Enw'r Cwrs
  • Disgrifiad o'r Cwrs
  • Hyfforddwr y Cwrs
  • Tymor y Cwrs

Ar ôl i chi ddewis y math o ffeil, cyflwynwch derm neu ymadrodd i chwilio yn ei ôl. Yn ddiofyn, bydd y teclyn chwilio yn chwilio am unrhyw gwrs sy’n cynnwys yr ymadrodd a gyflwynwyd gennych. Gallwch newid y gosodiad hwn i chwilio am gyrsiau sy’n cynnwys yr holl ymadrodd a gyflwynwyd gennych neu am gyrsiau sy’n dechrau gyda’r ymadrodd hwnnw. Gallwch hefyd glicio ar Ddim yn wag i weld y rhestr lawn o’r cyrsiau sydd ar gael.

Dewiswch Mynd i gychwyn eich chwiliad. Os ydy rhestr eich canlyniadau yn rhy hir, gallwch fireinio’r canlyniadau trwy ddefnyddio’r hidlydd Dyddiad Creu. Nodwch ddyddiad ac yna nodwch os ydych am chwilio am gwrs a gafodd ei greu cyn neu ar ôl y dyddiad hwnnw.

Dewiswch gwrs yn y canlyniadau i weld rhagolwg o'r cynnwys. Os yw'r cwrs yn caniatáu hunan-ymrestru, gallwch ymrestru ar y cwrs ar unwaith. Yng nghatalog y cwrs, agorwch ddewislen cwrs a dewiswch Ymrestru.