Gweld adroddiad Gweithgarwch o'i Gymharu ag Eraill
Roedd hyn dim ond ar gael i ddalwyr trwydded Analytics o'r blaen, ond mae bellach ar gael i bob cleient Learn.
Dewiswch Dadansoddi o'r ddewislen. Ar y dudalen Dadansoddi Cwrs, dewiswch Gweithgarwch o'i Gymharu ag Eraill. Bydd Analytics for Learn yn agor mewn tab newydd sy'n cynnwys manylion am eich mynediad at y cwrs, eich cyflwyniadau, eich rhyngweithiadau a'r amser a dreuliwyd yn Blackboard Learn, o'i gymharu â'ch cyd-fyfyrwyr.
Os yw'ch sefydliad hefyd wedi galluogi Blackboard Predict, efallai byddwch hefyd yn gweld ail dab, Fy Ngweithgarwch a Gradd Arfaethedig. Mae Predict yn cynnwys adroddiadau ychwanegol sy'n dangos eich cynnydd yn eich cyrsiau.
Gweld rhybuddion yn y ffrwd gweithgarwch
Os welwch restr gyda'ch enw ar y frig ar ochr chwith y dudalen, gallwch gael mynediad at wybodaeth i ddarganfod sut rydych yn perfformio o'i gymharu â'ch cyd-ddisgyblion. Yn ystod y tymor, mae'n bosib y byddwch yn gweld hysbysiad yn eich ffrwd gweithgarwch yn nodi sut rydych chi'n gyrru ymlaen yn eich cwrs.
Mae data gweithgarwch cwrs yn ymddangos ar ôl cwpl o ddiwrnodau a lefel benodol o ymrwymiad ar y cwrs yn gyffredinol. Ni fydd dosbarthiadau hynod fawr neu fach yn cynhyrchu data.
Cael mynediad at wybodaeth o'ch tudalen Graddau
Yn y rhestr ble mae eich enw yn ymddangos, dewiswch Graddau. Ar dudalen Graddau, dewiswch eicon Cynnydd ar y Cwrs, nesaf at y gell sy'n dangos gradd eich cwrs. Bydd panel Sut ydw i'n Gyrru Ymlaen yn ymddangos.
Gall eich hyfforddwr osod y radd gyffredinol ar gyfer eich cwrs er mwyn i chi allu olrhain sut rydych chi'n gyrru ymlaen. Efallai caiff eich gradd ei dangos fel gradd llythyren neu ganran. Dewiswch radd y cwrs i ddysgu mwy am sut caiff y radd gyffredinol ei chyfrifo.
Dewiswch eich gwedd
Ym mhanel Sut ydw i'n Gyrru Ymlaen?, dewiswch eicon Gwedd Siart neu Gwedd Tabl i ddewis eich gwedd. Gallwch ddefnyddio'r golwg siart gyda darllenydd sgrin.
Gwedd siart
Gallwch ddewis graff gwasgariad sy'n cymharu'ch gweithgarwch a graddau gyda'ch cyd-ddisgyblion. Byddwch yn gweld darlun eang o'ch perfformiad mewn perthynas â gweddill y dosbarth.
Echelin Y: Caiff eich graddau a rhai'ch cyd-ddisgyblion eu cynrychioli ar echelin y.
Echelin X: Mae cyfrif gweithgarwch yn seiliedig ar algorithm esblygol sy'n cyfrif am gliciau a'r amser a dreulir ar dudalennau.
Llinell atchwel: Mae'n hymchwil yn dangos cydberthynas arwyddocaol rhwng graddau a lefel gweithgarwch. Mae'r llinell atchwel yn cynrychioli'r gydberthynas honno ac yn rhoi gradd a ragwelir yn ôl lefel y gweithgarwch.
Nesáu a phellhau: Defnyddiwch yr eiconau plws a minws i nesáu a phellhau. I chwyddo i mewn ar ran benodol o'r plot gwasgariad, pwyswch a llusgo i ddewis yr ardal. Bydd hirsgwar tryloyw yn ymddangos dros eich detholiad a bydd y sgrin yn nesáu'n awtomatig. Defnyddiwch yr eicon minws i ailosod y graff.
Gwedd tabl
Dewiswch eicon Gwedd tabl i weld eich data wedi'i drefnu mewn rhesi a cholofnau.