Hidlwch y rhestr o nodweddion i ddysgu rhagor.
Beth mae'r categorïau'n golygu?
Dilynwch y dudalen hon i gael diweddariadau ar e-bost pan fyddwn yn cyhoeddi nodiadau rhyddhau newydd
Ynglŷn â SafeAssign
Defnyddir SafeAssign i hyrwyddo gwreiddioldeb ac i greu cyfleoedd i helpu myfyrwyr i adnabod sut i briodoli ffynonellau'n gywir yn hytrach nag aralleirio. Mae'n cymharu aseiniadau a gyflwynwyd yn erbyn set o bapurau academaidd i nodi’r meysydd sy’n gorgyffwrdd rhwng yr aseiniadau a gyflwynwyd a gweithiau presennol Mae SafeAssign yn effeithiol fel ataliad ac offeryn addysgol. Gall hyfforddwyr ddefnyddio SafeAssign i archwilio llên-ladrad posib mewn aseiniadau a gyflwynwyd. Os caniateir gan hyfforddwyr, gall myfyrwyr adolygu eu gwaith eu hunain am lên-ladrad posib.
Rhagor am sut mae SafeAssign yn gweithio
Nodiadau Rhyddhau ar gyfer Fersiynau Blaenorol
Mae'r nodiadau rhyddhau ar gyfer fersiynau blaenorol ar gael yn Saesneg yn unig.
Nodiadau rhyddhau sy'n cydweddu â Blackboard Learn 9.1 Ebrill 2014 ac yn hwyrach
Nodiadau rhyddhau sy'n cydweddu â Blackboard Learn 9.1 SP14 ac yn gynharach
Categorïau Nodiadau Rhyddhau
Gwasanaeth Canolog
Platfform Meddalwedd fel Gwasanaeth (SaaS) yw SafeAssign a gyhoeddir gan Amazon Web Services (AWS). Yn y nodiadau rhyddhau, rydym yn cyfeirio at feddalwedd SafeAssign a'r caledwedd a letyir yn AWS fel y Gwasanaeth Canolog. Mae'r Gwasanaeth Canolog yn darparu trosiant y ddogfen, storfa, a dadansoddiad o wreiddioldeb ac yn darparu rhyngwyneb yr Adroddiad Gwreiddioldeb ar gyfer holl ddefnyddwyr SafeAssign.
Un fersiwn o'r Gwasanaeth Canolog sy'n bodoli ar gyfer yr holl ddefnyddwyr, sy'n golygu bod mwyafrif y diweddariadau i'r Gwasanaeth Canolog yn berthnasol i bob cwsmer ar yr un pryd yn yr un modd. Mae'n bosibl bydd rhai materion yn ymwneud â swyddogaeth neu achlysuron lle mae rhai diweddariadau ar gael i gwsmeriaid penodol yn unig. Yn yr achosion hyn, byddwn yn esbonio'r eithriadau yn y nodiadau rhyddhau ar gyfer y Gwasanaeth Canolog, yr Adroddiad Gwreiddioldeb neu'r Integreiddiadau perthnasol.
Adroddiad Gwreiddioldeb
Adroddiad Gwreiddioldeb SafeAssign yw'r brif rhyngwyneb defnyddiwr ar gyfer yr holl ddefnyddwyr. Gwasanaethir yr Adroddiad Gwreiddioldeb gan y Gwasanaeth Canolog a gellir ei diweddaru heb orfod diweddaru LMS defnyddwyr. Mae hyn yn ein caniatáu i drwsio chwilod a diweddaru pwyntiau mewn modd hyblyg ac mae'n helpu Blackboard i ddarparu profiad o ansawdd uchel i bob defnyddiwr beth bynnag eu LMS neu integreiddiad.
Integreiddiadau
Darperir dogfennau a data defnyddwyr i Wasanaeth Canolog SafeAssign trwy integreiddio gyda'r LMS. Ar hyn o bryd, rydym yn cynnig integreiddiadau gyda Blackboard Learn a Moodle. Crëir integreiddiad Blackboard Learn trwy floc adeiladu a chrëir integreiddiad Moodle trwy ategyn. Mae Blackboard yn cynnal yr integreiddiadau hyn ar ran ein cleientiaid.
Gellir diweddaru'r integreiddiadau hyn yn annibynnol neu ar y cyd â diweddariadau i'r Adroddiad Gwreiddioldeb a/neu Wasanaeth Canolog. Yn yr achosion hyn, byddwn yn esbonio diweddariadau ar gyfer meysydd perthnasol o'r gwasanaeth yn y nodiadau rhyddhau.